Dr Laura Sala-Comorera
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol
Coleg Prifysgol Dulyn

Mae Dr. Laura Sala-Comorera yn Ymchwilydd Ôl-ddoethurol gyda phrosiect Acclimatize.  Mae ganddi MA mewn Gwyddor Amgylcheddol a PhD mewn Microbioleg Amgylcheddol a Biotechnoleg o Brifysgol Barcelona. Canolbwyntiai ei hymchwil PhD ar astudio nodweddion cymunedau heterotroffig mewn dŵr mwnol naturiol ac mewn gweithfeydd trin dŵr yfed, ynghyd â chloriannu gwahanol ddulliau dadansoddol effeithlon, cadarn a chyflym y gellir eu defnyddio yn rheolaidd wrth ddadansoddi.

Mae gan Dr Sala-Comorera chwe blynedd o brofiad o weithio mewn labordai microbiolegol gyda’r grŵp ymchwil MARS (Microbioleg dŵr mewn perthynas ag iechyd) a bu’n gysylltiedig â sawl prosiect yn ymwneud â microbioleg amgylcheddol. Mae hi’n aelod o Rwydwaith Cyfeirio Biotechnoleg Catalonia, Cymdeithas Microbioleg Sbaen a Ffederasiwn Cymdeithasau Microbioleg Ewrop. Yn flaenorol bu’n aelod o bwyllgor gwyddonol y gynhadledd flynyddol ar gyfer ymchwilwyr ieuainc a drefnid gan Athrofa Ymchwil Dŵr Prifysgol Barcelona. Mae Dr Sala-Comerera wedi mynychu sawl cynhadledd ym maes ei harbenigedd ac mae wedi cyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion.

X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu

This site is registered on wpml.org as a development site.