Dr Guanghai Gao
GWYDDONYDD YMCHWIL
Coleg Prifysgol Dulyn

Cwblhaodd Dr Guanghai Gao PhD mewn Modelu Hydro-amgylcheddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd prosiect PhD Guanghai yn cynnwys datblygu a chymhwyso model hydro-amgylcheddol i ragweld prosesau hydrodynamig, trawsgludo gwaddodion a bacteriol mewn dyfroedd afonol, arfordirol a morydol.

Yna bu’n gweithio fel Cydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ar ddau brosiect gwahanol. Roedd un o’r prosiectau, Ymchwil Amlddisgyblaethol mewn Ynni Llif Llanw, yn cynnwys datblygu modelau hydro-amgylcheddol i ymchwilio effeithiau amgylcheddol prosiectau ynni llanw yn Aber Hafren, y DU. Roedd y prosiect arall, C2C CLOUD TO COAST: Asesiad integredig o amlygiad amgylcheddol, effeithiau iechyd a chanfyddiadau risg organebau carthol mewn dyfroedd arfordirol, yn cynnwys datblygu modelau hydro-amgylcheddol i efelychu ffawd a chludiant Bacteria Dangosyddion Carthol ym Moryd Ribble, y DU. Cyn ymuno â Phrosiect Acclimatize fel Gwyddonydd Ymchwil, roedd Guanghai yn Ddarlithydd yn Adran Gwyddor a Pheirianneg Amgylcheddol Prifysgol Nankai, Tsieina.

X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu

This site is registered on wpml.org as a development site.