Dr Conor Muldoon
GWYDDONYDD YMCHWIL
Coleg Prifysgol Dulyn

Gwyddonydd ymchwil ar brosiect Acclimatize yw Dr. Conor Muldoon yn Ysgol Cyfrifiadureg Coleg Prifysgol Dulyn gyda diddordebau ymchwil ym meysydd Rhwydweithiau Synwyryddion, Systemau Aml-asiant, Deallusrwydd Artiffisial Gwasgaredig, a Rhyngrwyd Pethau. Cyn ymuno â phrosiect Acclimatize, bu’n gweithio ar COBWEB (Citizen OBservatory Web), oedd yn brosiect FP7 amlddisgyblaethol ym meysydd Cyfrannu Torfol, Rhwydweithiau Synwyryddion a Gwyddoniaeth y Dinesydd. Fel ymchwilydd ôl-ddoethurol, bu’n dal dwy gymrodoriaeth nodedig gan Gyngor Ymchwil Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg Iwerddon (IRCSET), sef Cymrodoriaeth Symudedd Rhyngwladol INSPIRE Marie Curie a Chymrodoriaeth Embark. Yn ystod y gymrodoriaeth symudedd, treuliodd ddwy flynedd o gyfnod allanol yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Rhydychen a blwyddyn ddychwelyd yn Ysgol Cyfrifiadureg Coleg Prifysgol Dulyn. Mae ganddo Ph.D. mewn Cyfrifiadureg a gradd B.Sc. (Anrhydedd) mewn Peirianneg Gyfrifiadurol a Meddalwedd.

X

This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu

This site is registered on wpml.org as a development site.