Nod Smart Coasts = Sustainable Communities oedd galluogi cymunedau yn ardaloedd INTERREG Cymru ac Iwerddon i gynnal y gwerth economaidd a strategol a gyfrannir gan eu dyfroedd arfordirol tuag at eu heconomïau, a thrwy hynny gynorthwyo ag amcanion Strategaeth Lisbon a Datganiad Gothenburg drwy wneud cyfraniad uniongyrchol at ddatblygu cynaliadwy. Cynhaliwyd dau weithgaredd arddangosol cyd-ddibynnol ger glannau Cymru ac Iwerddon (sef Bray, swydd Wicklow ger dalgylch Dargle, a’r dyfroedd ger y glannau ac arfordirol ym Mae Abertawe).
Nod y gweithgareddau cydgysylltiedig hyn oedd dangos y dulliau y mae angen eu rhoi ar waith i cyflwyno rheolaeth ar-y-pryd ar ddŵr ymdrochi er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, a sicrhau cydymffurfiaeth gynaliadwy mewn systemau dŵr ymdrochi cymhleth. Gwnaed hyn drwy ddatblygu systemau rheoli ar-y-pryd a awgrymwyd yn gyntaf gan Sefydliad Iechyd y Byd, ac sydd ers hynny wedi’u hymgorffori yn y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi ddiwygiedig.
Drwy ddefnyddio offer TGCh (technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a systemau gwybodaeth ar-y-pryd a ddatblygwyd yn rhan o’r prosiect, y nod oedd sicrhau gwell iechyd cyhoeddus a chynyddu’r nifer o draethau sy’n bodloni safonau newydd yr UE, a thrwy hynny fod yn gymwys am ddyfarniadau fel y Faner Las.
Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Cymru ac Iwerddon (INTERREG 4A).
Drwy ragweld ansawdd dŵr y glannau ar-y-pryd fe ellir sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu a bod mwy o ddyfroedd ymdrochi o ansawdd ‘rhagorol’ i’w cael yng Nghymru ac Iwerddon. Fe’i hargymhellir gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Datblygodd prosiect ‘Smart Coasts = Sustainable Communities’ fodelau rheoli ymarferol mewn dau safle enghreifftiol yn Iwerddon a Chymru. Yn y safleoedd hyn, casglwyd data o ansawdd uchel i fod yn sail i ddylunio model credadwy. Ymchwiliwyd i ddau fath o fodel: (i) modelau ‘blwch-du’ syml, lle mae cydymffurfiaeth yn gysylltiedig ag, er enghraifft, faint y glawiad neu drothwyon llif afonydd; a (ii) modelau mwy cymhleth, wedi’u seilio ar brosesau, yn cysylltu dŵr ffo ar wyneb y tir â phatrymau llif ger yr arfordir sy’n cynhyrchu crynodiadau o lygryddion yn y safleoedd ymdrochi perthnasol. Roedd yr offer modelu wedi’u cynllunio i fod yn generig, yn drosglwyddadwy ac i sicrhau bod y gwaith dylunio yn cynnwys cyfraniadau gweithredol ymarferol sylweddol gan ein partneriaid yng Nghymru ac Iwerddon.
Un peth a ddeilliodd o’r gwaith oedd bod y data newydd a gafwyd wedi darparu gwybodaeth ragorol am y cyfraniadau cymharol a wneud gan y gwahanol ffynonellau o lygredd i’r dyfroedd a gafodd eu llygru yn y ddau safle enghreifftiol. Yng Nghymru, bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio gan Ddŵr Cymru ac Asiantaeth Amgylchedd Cymru i sicrhau y gwneir penderfyniadau sy’n gost-effeithiol ac wedi’u seilio ar dystiolaeth ynghylch unrhyw strategaethau gwella yn y dyfodol sy’n gorfod targedu seilwaith ‘ffynhonnell un man’ yn ogystal â llygredd ‘ffynonellau gwasgaredig’ sy’n llwytho o ddalgylchoedd sy’n draenio i’r môr.
Aed ati’n benodol i ddewis Bae Abertawe a Thraeth Bray ar gyfer y prosiect, h.y. dyfroedd ymdrochi nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu hystyried yn rhagorol. Roedd Bae Abertawe a Bray yn ddelfrydol ar gyfer y prosiect, gan nad ydynt wedi’u diwydiannu, mae ganddynt draethau o fewn pellter cerdded i filoedd o breswylwyr, maen nhw’n gyrchfannau twristiaeth a chwaraeon dŵr poblogaidd ac maent wedi cael buddsoddiadau sylweddol i wella eu seilwaith a’u cyfleusterau hamdden.
Dechreuodd y prosiect ym mis Gorffennaf 2010 a daeth i ben, a chyflwyno ei adroddiad, yn 2015.
Rheolwyd Rhaglen Iwerddon 2007 – 2013 gan Gynulliad Rhanbarthol Deheuol Iwerddon dan raglenni Cronfeydd Strwythurol yr UE 2007-2013. Mae Blaenoriaeth 2 y Rhaglen yn cefnogi prosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lleol yn yr ardal drawsffiniol ac sy’n cyd-fynd yn agos â strategaethau’r UE, Iwerddon a Llywodraeth Cymru i hybu datblygu cynaliadwy a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Prif Ymchwilwyr (UCD)
Amcan ICREW oedd gwella’r cyfraniad a wnaed gan ddyfroedd arfordirol a mewndirol a ddefnyddid at ddibenion hamdden tuag at ffyniant economaidd cynaliadwy, a gwella ansawdd bywyd yn Ardal yr Iwerydd, drwy leihau eu llygredd a gwella eu hansawdd.
Mae Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi’r UE yn gosod safonau gorfodol ar gyfer ansawdd dŵr mewn safleoedd dŵr ymdrochi. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb ym mis Mawrth 2006 ac roedd y safonau newydd yn sylweddol lymach na’r rhai cynt.
Mae buddsoddiad sylweddol eisoes wedi’i wneud ledled yr UE i wella’r driniaeth ar y carthion sy’n cael eu gollwng i afonydd a’r môr. Fodd bynnag, roedd y safonau newydd yn y Gyfarwyddeb yn golygu ei bod yn rhaid i ni droi ein sylw oddi wrth y gollyngiadau mawr o garthffosiaeth i ffurfiau llai amlwg ar lygredd fel dŵr ffo gwasgaredig o dir amaethyddol. Darparodd canlyniadau prosiect ICREW ddulliau cyffredin i aelod-wladwriaethau’r UE er mwyn iddynt allu ymchwilio i lygredd a’i leihau, gan anelu at sicrhau cydymffurfiaeth gyson â safonau’r Gyfarwyddeb ledled yr UE.
Prif Ymchwilwyr
Nodau cyffredinol prosiect SMART oedd adeiladu ar ganlyniadau prosiect partneriaid INTERREG IIIA, a oedd yn gweithio ar gyflawni safonau’r EU mewn dŵr hamdden, drwy roi ar waith yr offer rhagfynegi a ddatblygwyd i integreiddio dadansoddiadau o gyllidebau llygredd a modelu cyfrifiadurol ar ffynonellau ‘un-man’ a ‘gwasgaredig’ o lygredd i sicrhau rheoli cynaliadwy ar bysgodfeydd cregyn ac amgylcheddau dŵr hamdden o ansawdd uchel yn Iwerddon a Chymru. Yn benodol roedd y prosiect yn defnyddio’r model ‘ffynonellau dalgylch gwasgaredig’ a ddatblygwyd gan y timau yn eu prosiect INTERREG II blaenorol a’i gymhwyso i dair ardal newydd, sef Bae Caerfyrddin (Cymru) a Bae Dulyn a Bae Bannow (Iwerddon.)
This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu