Roedd Acclimatize 2017 – 2023 yn brosiect a gyflawnwyd gan ymchwilwyr yn Iwerddon (Coleg y Brifysgol Dulyn (UCD)) a Chymru (Prifysgol Aberystwyth). Ein nod oedd canfod sut roedd dyfroedd ymdrochi ar lan y môr yn cael eu llygru mewn ffordd a all effeithio ar iechyd y cyhoedd, a sut y gallai newid yn yr hinsawdd effeithio ar ansawdd y dyfroedd hyn yn y dyfodol. Ariannwyd prosiect Acclimatize yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Cymru ac Iwerddon 2014 – 2020. Dechreuodd Acclimatize ym mis Chwefror 2017 a daeth i ben yn Mehefin 2023.
Gyda phwy y buom ni’n gweithio?
Yn Iwerddon, buom yn gweithio gyda Chyngor Dinas Dulyn, Cyngor Sir Dún Laoghaire-Rathdown, Cyngor Sir Fingal, yr Asiantaeth Diogelu Amgylcheddol, Uisce Éireann (Irish Water yn flaenorol), Partneriaeth Biosffer Bae Dulyn a Waterways Ireland.
Yng Nghymru buom yn gweithio gyda Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chynrychiolwyr Llywodraeth Leol yng Nghymru (Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cymuned Llanbadrig, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro) Llywodraeth Cymru a sefydliadau anllywodraethol perthnasol (drwy Bartneriaeth Dŵr ac Iechyd Cymru (Grŵp Dyfroedd Ymdrochi)).
Beth wnaethom ni
Defnyddiwyd cyfuniad o waith maes helaeth gan gynnwys trawslunio traethau, samplo morol ac arolygon baw cŵn, dadansoddi labordy a monitro hydrometrig a meteorolegol i gasglu gwybodaeth am ein safleoedd astudio. Drwy dracio ffynonellau microbaidd roedd modd i ni bennu ffynhonnell y llygredd (h.y. pobl, cŵn, gwylanod, brain). Yna cyfunwyd y wybodaeth hon gyda gwybodaeth oedd eisoes yn bodoli am lwybrau afonydd, rhagolygon tywydd a hinsawdd i lunio modelau rhagfynegol a hydrodynamig ystadegol.
Yn y tymor byr, mae’n bosibl defnyddio’r modelau hyn i ganfod y risg i’r dyfroedd ymdrochi. Lluniwyd rhagfynegiadau tymor hirach hefyd hyd at ddiwedd y ganrif sy’n ystyried newid yn yr hinsawdd. Bydd y wybodaeth hon yn helpu llunwyr polisïau ac awdurdodau lleol i ddiogelu’r amwynderau a’r adnoddau gwerthfawr a ddarperir gan ddyfroedd ymdrochi.
Ble
Iwerddon
Traethell Sandymount, Dulyn
Traethell Merrion, Dulyn
Traethell Dollymount, Dulyn
Donabate (Traeth Balcarrick), Dulyn
Portrane (Traeth Brook), Dulyn
Grand Canal Basin, Dulyn
Cymru
Bae Cemaes, Ynys Môn
Traeth y Dolau/Gogledd Cei Newydd, Ceredigion
Traeth Gwyn, Ceredigion
Nolton Haven, Sir Benfro
Crynodeb o’r canfyddiadau
Pwysau llygredd
Mae ansawdd y dŵr yn agosach at y lan yn gyffredinol waeth nag ansawdd dŵr alltraeth.
Gall mesuriadau nodi carthion amrywio 100 – 10,000 gwaith mewn un diwrnod.
Beth sy’n achosi ansawdd dŵr gwael:
Ffrydiau llygredig yn llifo i’r traethau (llygredd dynol ac amaethyddol).
Baw cŵn – mae un achos o faw ci yn ddigon i halogi ardal maint cwrt tennis.
Adar – pan fydd adar yn ymgasglu, e.e. wrth fudo, gallant achosi llygredd yn lleol.
Climate change
Disgwylir i batrymau glaw newid a gall hyn arwain at hafau sychach a gaeafau gwlypach. Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ansawdd dŵr ymdrochi ac felly bydd yn amrywio gyda’r tymhorau..
Gall ansawdd dŵr wella oherwydd:
Lefelau’r mor yn codi gan arwain at wanhau llygryddion.
Gallai hafau sychach olygu llai o ddŵr arwyneb a gollyngiadau gorlif carthffosiaeth cyfunol.
Gallai ffactorau allanol effeithio ar ansawdd dŵr yn y dyfodol e.e. cyfleusterau trin dŵr gwastraff wedi’u huwchraddio neu newidiadau yn niferoedd gyrroedd llaeth..
Canlyniadau
Bellach mae gennym ddealltwriaeth ragorol o nodweddion microbaidd a hydrodynamig y nentydd, afonydd a dyfroedd ymdrochi yn ardaloedd astudiaeth Acclimatize.
Datblygu modelau rhagfynegol a hydrodynamig ystadegol o ddyfroedd ymdrochi trefol a gwledig sy’n rhoi gwell dealltwriaeth o ddynameg ansawdd dŵr ymdrochi.
Datblygu modelau’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n galluogi deall y cysylltedd rhwng safleoedd gollwng llygredd a dyfroedd ymdrochi y gall hyn effeithio arnynt.
Bellach mae gennym ddealltwriaeth well o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ffactorau sy’n cyfrannu at halogi carthol mewn dŵr ymdrochi.
Gweithgareddau allgymorth yn amlygu effaith baw cŵn ar ansawdd dŵr.
Gyda chymorth gan Raglen Iwerddon Cymru bu’n bosibl i ni gyfranogi mewn prosiectau gwyliadwriaeth dŵr gwastraff SARS-CoV-2 a arweiniodd at sefydlu Rhaglen Gwyliadwraeth Dŵr Gwastraff SARS-CoV-2 yn Iwerddon.
Effaith
Galluogi partneriaid y prosiect i gynnal ymyriadau’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u targedu i wella ansawdd dŵr mewn nentydd, afonydd a dyfroedd ymdrochi.
Darparu cefndir gwyddonol i gefnogi’r penderfyniadau polisi sydd eu hangen i reoli dyfroedd ymdrochi.
Datblygu modelau i ragfynegi ansawdd dŵr o fewn diwrnod. Mae’r gallu i ragfynegi ansawdd dŵr gwael yn golygu y gallwn leihau risgiau i iechyd drwy rybuddio pobl ymlaen llaw.
Gwell dealltwriaeth o effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd ar ansawdd dŵr ymdrochi, gan alluogi partneriaid y prosiect i ddiogelu buddsoddiadau sydd â’r nod o wella ansawdd dŵr at y dyfodol.
Caiff canlyniadau a deilliannau Acclimatize eu defnyddio i lywio diwygiadau i safonau’r WHO a’r UE.
Drwy wella ansawdd dŵr, rydym ni’n lleihau’r perygl o salwch o bathogenau sy’n deillio o halogi carthol.
X
This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020. www.irelandwales.eu
This site is registered on wpml.org as a development site.