Un o nodau pwysig prosiect Acclimatize 2017 – 2023 oedd pennu faint y mae pob un o’r ffynonellau posibl yn cyfrannu at lygredd carthol ym Mae Dulyn. Fel rhan o hyn, bu’r tîm yn cynnal astudiaethau i bennu effaith baw cŵn ar ansawdd dŵr ymdrochi.
Yn Iwerddon, caiff dŵr ymdrochi ei fonitro gan yr awdurdodau lleol yn ystod y tymor ymdrochi, rhwng 1 Mehefin a 15 Medi. Caiff ansawdd y dŵr ei ddosbarthu ar sail bacteria carthol dangosol mewn sampl o ddŵr yn ôl y Gyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi [1]. Gelwir y bacteria hyn yn E.coli a enterococci perfeddol ac maent i’w gweld ym mherfedd anifeiliaid gwaed cynnes, gan gynnwys pobl. Cânt eu cyflwyno i amgylchedd y dŵr drwy ddeunydd carthol. Gall llygredd carthol ar draethau ddod o nifer o ffynonellau, fel carthffosiaeth a baw anifeiliaid, gan gynnwys cŵn. Mae baw cŵn yn cynnwys llawer o bathogenau peryglus a all achosi bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd pan na chaiff ei godi gan berchnogion yr anifeiliaid. Mae’r bygythiad hwn yn arbennig o amlwg ar draethau cyhoeddus lle mae pobl yn fwy tebygol o ddod i gyswllt uniongyrchol â baw cŵn drwy nofio a gweithgareddau hamdden eraill.
Aeth tîm Acclimatize ati i amcangyfrif effaith baw cŵn ar ansawdd dŵr ymdrochi ar bedwar traeth yn Nulyn: Traethell Sandymount a Thraethell Merrion yn Nulyn, a thraethau Donabate a Portrane yng ngogledd Swydd Dulyn. Cynhaliodd y tîm arolygon baw cŵn ar bob traeth i amcangyfrif faint o faw cŵn oedd yn cael ei adael ar gyfartaledd bob dydd. Defnyddiwyd GPS i nodi ymhle y cafodd pob achos ei ganfod er mwyn nodi mannau lle’r oedd llawer o faw cŵn.
Gan ddefnyddio offer moleciwlaidd i ddadansoddi ffynhonnell llygru carthol o’r enw olrhain ffynhonnell ficrobaidd (MST), roedd tîm Acclimatize yn gallu adnabod ffynhonnell llygredd carthol o samplau dŵr. Canfu’r tîm farciwr MST cŵn mewn nifer o samplau o ddŵr ymdrochi yn ardal Dulyn [2].
Roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys amcangyfrif y lefelau o E.coli ac enterococci perfeddol ym maw cŵn Iwerddon drwy gasglu samplau o garthion o noddfeydd cŵn o gwmpas Leinster. Cyfrifodd y tîm fod bron 3 biliwn CFU ar gyfer E.coli a 350 miliwn CFU ar gyfer enterococci perfeddol mewn un achos o faw cŵn. Mae hyn yn awgrymu bod gan un achos o faw ci’r potensial i lygru ardal o ddŵr (0.5m o ddyfnder) tua’r un maint â chwrt tennis.
Rhagor o wybodaeth:
Dublin City Council Beaches and Bathing Water Quality | Dublin City Council
Dún Laoghaire-Rathdown County Council Bathing Water Quality | Dún Laoghaire-Rathdown County Council (dlrcoco.ie)
Fingal County Council Beaches and Bathing Water Quality Information | Fingal County Council
Environmental Protection Agency Beaches.ie – beaches.ie shares the latest information we have on water quality and other information at the moment you search for it.
This project has been part funded by the ERDF though the Ireland Wales Programme 2014 -2020.
www.irelandwales.eu